WelshGigs Logo

Yr noswyl nadolig

Sun 19th Dec 21 16:00 edit

Draw yn Neuadd Hoddinott, y noson cyn yr Ŵyl,
A Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wrthi’n cael hwyl,
Gyda’r cyflwynydd Elin Llwyd a’r arweinydd Grant Llewellyn,
Stori Noswyl Nadolig gaiff ei hadrodd o’r newydd...

Dewch atom am bnawn o gerddoriaeth a miri,
Wrth i ddathliadau’r Nadolig nesáu eleni,
Bydd alawon a straeon i lonni’ch calonnau,
Ac efallai’n wir y bydd rhan fach i chithau.

Y Saesneg am ddau a’r Gymraeg am bedwar,
Dewch i ymuno â’n dathliadau lliwgar,
Yn eich siwmper a phob math o geriach Nadolig,
Cewch eich cyfareddu gan sŵn cerddorfaol ffantastig.


Grant Llewelyn arweinydd
Elin Llwyd cyflwynydd
Cerddorfa Cenedlaethol Cymreig y BBC


RHAGLEN
Philip Lane The Night Before Christmas (Clement Clarke Moore) / Ar Noswyl Nadolig (cyfieithwyd gan Ceri Wyn Jones)
Nigel Hass A Christmas Overture: for orchestra
Prokofiev Cyfres Lieutenant Kijé: Troika
Tchaikovsky Dewis o Cyfres Yr Efail Gnau (Dance of the Sugar Plum Fairy, Dance of the Mirlitons)
Rimsky-Korsakov Dance of The Tumblers (The Snow Maiden)
Adam Saunders A Fairytale Sleighride
Alan Silvestri arr. Brubaker Concert Suite from The Polar Express
Leroy Anderson Sleigh Ride


Cyfyngiadau Oedran
3+: dim ond awr o hyd yw’r gyngerdd, felly mae’n hynod addas i gynulleidfaoedd iau a theuluoedd

Pris Safonol: £15.00
Myfyrwyr: £5.00
Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith | Dros 65: 10% yn llai
Grwpiau o 10 neu fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920878444): 15% yn llai
Tocyn teulu (Opsiwn 1) - 1 Oedolyn ac 1-2 o blant dan 16 oed: £15.00
Tocyn teulu (Opsiwn 2) - 2 Oedolyn a 2-4 o blant o dan 16 oed: £20.00
Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): 2 gredyd

BBC Hoddinott Hall

Cardiff Bay
CF10 5AL
Cardiff
www.wmc.org.uk
08000521812

Login

Not a member? Sign up or forgotten password?